Mae Boccia (ynganu Bot-cha) yn gêm debyg i boules. Mae’n cael ei chwarae gyda pheli lledr meddal gyda’r nod o ddod agosaf at y bêl wen. Fe'i dyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer pobl sy'n byw gyda pharlys yr ymennydd (cerebral palsy) ac erbyn hyn mae'n gêm Para Olympaidd.
Ym mis Medi 2017 cynhaliwyd Twrnamaint Boccia Gwynedd cyntaf yng Nghanolfan Byw‘n Iach Glaslyn ym Mhorthmadog. Cymerodd 20 tîm o wahanol sefydliadau ran yn y twrnamaint gan gynnwys cyfranogwyr dosbarth DementiaGo, Cymdeithas MS, Parkinson’s, cleientiaid Atgyfeirio Ymarfer Corff a grwpiau Anabledd Dysgu lleol. Dechreuodd y twrnamaint blynyddol i ddechrau ar ôl derbyn rhodd garedig gan y Cynghorydd Mr John Brymor Hughes a'i wraig Vivien, i redeg y digwyddiad er cof am ei fab - mae timau bellach yn chwarae am yr anrhydedd o ennill Tarian Goffa Wil Pent. Yn y Twrnamaint ym mis Ebrill 2019 gwelwyd 47 tîm yn cystadlu.
Yn dilyn llwyddiant y Twrnameintiau ffurfiwyd Cynghrair Boccia Gwynedd i roi cyfle i bobl chwarae'n fwy rheolaidd. Cynhelir y gemau ar yr ail ddydd Gwener o bob mis yng nghanolfan Byw‘n Iach Glaslyn, Porthmadog. Ar hyn o bryd mae 27 tîm yn chwarae a mae y sefydliadau sydd yn cymryd rhan wedi cynyddu i wneud hwn yn weithgaredd gwirioneddol gynhwysol.