Roedd hi'n fraint cael ein hanrhydeddu yn seremoni wobrwyo Gwasanaeth Tân ac Achub Golgedd Cymru wythnos diwethaf.
Enillodd Dementia Actif Gwynedd y wobr 'Partner Diogelwch Cymunedol':-
"Mae Dementia Actif Gwynedd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'n gwaith atal a diogelwch tân dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae eu hymroddiad, eu cydweithrediad a'u cyrhaeddiad cymunedol wedi ein helpu i wneud gwahaniaeth mawr ym mywydau pobl ledled Gogledd Cymru.
Yn ein dau ddigwyddiad Taith Dementia, maent wedi mynychu a chefnogi'r diwrnodau eu hunain ac hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn eu hyrwyddo efo pobl eraill. Diolch i hyn, cyrhaeddodd y digwyddiadau hyn fwy o bobl a chafodd fwy o effaith, gan godi ymwybyddiaeth bwysig am ddiogelwch a lles i'r rhai sy'n byw gyda dementia ac i'w gofalwyr.
Ar ben y ddigwyddiadau cyhoeddus, fe wnaeth Dementia Actif Gwynedd ein cefnogi hefyd i drefnu grwpiau ffocws mewn ardaloedd gwledig - yn aml y cymunedau sydd yn rhai anoddaf i'w cyrraedd. Roedd y sylwadau a gasglwyd o'r sesiynau hyn yn amhrisiadwy. Cafodd hyn ei adlewyrchu yn ein Cynllun Rheoli Risg Cymunedol a rhoddodd ddealltwriaeth llawer cliriach i ni o'r heriau a'r risgiau sy'n wynebu pobl hŷn a'r rhai sy'n byw gyda dementia."