Pecyn byw gyda Dementia – Prifysgol Exeter

Mae tîm Dementia Actif Gwynedd wedi cael yr anrhydedd o gyfrannu tuag at wefan sydd wedi’i lansio ar gyfer,a gan, bobl gyda dementia a gofalwyr.

Mae’r wefan Pecyn Byw Gyda Dementia, sydd wedi'i gynhyrchu gan Brifysgol Exeter ac Innovations in Dementia, yn llawn syniadau, awgrymiadau a ffilmiau i roi gobaith i bobl i fyw gyda dementia.

Dyma fideo sydd wedi ei gynnwys ar y wefan, sy'n rhoi blas ar ddosbarthiadau cadw'n heini Dementia Actif. Mae'r fideo yma o'n dosbarth yn Byw'n Iach Arfon.
https://www.youtube.com/watch?v=D_aGOmkW4ZQ

Cymerwch olwg ar yr adnodd gwych sydd wedi ei greu:-
https://livingwithdementiatoolkit.org.uk/