Bu Dementia Actif yn hynod o ffodus i allu cydweithio gyda Chanolfan Gerdd William Mathias i gynnal cyngerdd yn y Galeri ddoe. Braint oedd cael gwario’r bore yng nghwmni y delynores fyd enwog, Catrin Finch. Daeth 42 o aelodau a’u teuluoedd i’r digwyddiad hyfryd ac arbennig iawn hwn.