Rydym yn falch iawn o rannu bod Dementia Actif Gwynedd wedi derbyn statws 'Argymelledig iawn' yng ngwobrau cenedlaethol 'The Dementia Care Awards- Celebrating Excellence in Dementia Care' yn dilyn ein prosiect Twrnament Boccia Pontio'r Cenedlaethau â gynhelir yn gynharach yn y flwyddyn.
Fel rhan o'r prosiect yma, cynhelir sesiynau ymwybyddiaeth dementia i 9 o Ysgolion Cynradd Gwynedd; 157 o ddisgyblion. Yn dilyn yr ymweliadau i'r ysgolion, daeth yr ysgolion draw i'n twrnament boccia ynghyd â 12 o dimau Dementia Actif Gwynedd. Roedd hi'n ddiwrnod gwych 150 o chwaraewyr o bob oed yn cael llawer o hwyl, sgwrsio gyda ffrindiau newydd a chreu atgofion tra’n codi ymwybyddiaeth am ddementia.
Dyma beth oedd gan y beirniaid i'w ddweud:-
'This is an outstanding and truly innovative project that stands out for its ability to bring people together and foster a strong sense of community. With a clear and unwavering commitment to improving the lives of all who live in the county, it not only addresses local needs but also inspires meaningful connecting, inclusion, and long-term positive changes'.
Diolch yn fawr i Owain Llyr a Gweledigaeth am greu fideo o'r prosiect:-