Helo bawb,
Gweler ynghlwm canlyniadau'r gynghrair ar gyfer Rhagfyr - da iawn Glaslyn Belles sydd wedi cadw'r safle uchaf.
Am ddiwrnod bendigedig gawson ni ddydd Gwener. Diolch yn fawr i chi gyd am ddod draw ac am gymryd rhan gyda gymaint o frwdfrydedd a hwyl! Gobeithio eich bod chi a’ch tîm wedi mwynhau’r diwrnod.
Hoffwn ddweud diolch i gaffi Seren am y bwyd, côr Dementia Actif Arfon, côr Lleisiau Llawen, staff Byw’n Iach Glaslyn ac i dîm Cefnogi Iechyd Llesiant.
Mi fydd y gynghrair yn parhau ar ddydd Gwener y 12fed o Ionawr, 2024.
Edrychwch allan am luniau ar dudalen Facebook Dementia Actif Gwynedd.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Cofion Cynnes,
Tîm Dementia Actif Gwynedd 😊