Dosbarthiadau

Ar hyn o bryd mae 16 dosbarth wythnosol yn y gymuned ledled Gwynedd. Mae'r dosbarthiadau cymunedol yn cael eu cynnal mewn canolfannau hamdden, canolfannau cymunedol lleol a thai gofal ychwanegol. Y gost o fynychu'r dosbarthiadau yw £3, mae y pris yn cynnwys paned o de / coffi.

Gallwch chi hunangyfeirio i’r dosbarthiadau neu weithiwr proffesiynol clinigol eich cyfeirio i’r dosbarthiadau. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r dosbarthiadau, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Dementia Actif Gwynedd.

01766 510932 / 07768 988095

Ar ôl i chi gysylltu âg aelod o'r tîm, gallwch ddod i'r dosbarth ac arsylwi i weld os ydych chi'n meddwl bod y gweithgareddau'n addas i chi.

Rhaglen Gweithgareddau (pdf)