Mae Tîm Dementia Actif a'r cyfranogwyr yn cadw cysylltiad trwy fynychu cyfarfodydd grwpiau bach. Yn ystod y cyfarfodydd 30 munud, mae pawb yn dod â'u paned eu hunain ac yn cael sgwrs - yn union fel rydym ni'n ei wneud ar ddiwedd dosbarthiadau cymunedol DementiaGo. Mae'r cyfarfodydd hyn yn anffurfiol ac yn rhoi cyfle i'r cyfranogwyr ddal i fyny a chael hwyl yng nghysur eu cartref eu hunain.