Mae Tîm Dementia Actif Gwynedd yn gweithio gyda y ‘Sporting Memories Foundation’ i helpu pobl ym mhobman i aros yn gysylltiedig a chael hwyl - gan ddefnyddio atgofion o chwaraeon.
Ar hyn o bryd, mae cyfarfodydd Atgofion Chwaraeon Gwynedd yn cael eu cynnal ar-lein ar Zoom. Mae croeso i bawb ymuno. Rydym yn sgwrsio am chwaraeon, tanio atgofion hapus ac yn helpu pawb i deimlo'n rhan o dîm.
Ymunwch â’n cyfarfodydd Zoom
11:00-12:00
Dydd Mawrth (Cymraeg)
Dydd Gwener (Saesneg)
I gofrestru cysylltwch â Emma:- emmajaynequaeck@gwynedd.llyw.cymru neu am fwy o wybodaeth, cefnogaeth gyda zoom neu cefnogaeth ar sut i fynd ar-lein - 07768 988095